Marchnad 'Dolig Caernarfon 2024

Cartref > Digwyddiadau > Beth sydd ymlaen yng Nghaernarfon > Marchnad 'Dolig Caernarfon 2024

Annwyl fusnes, Rydym yn edrych ymlaen yn arw iawn at ddiwrnod Farchnad Dolig Caernarfon ar Ddydd Sadwrn y 16ain o Dachwedd rhwng 10:00 – 16:00. Mi fydd y farchnad a digwyddiadau i gydfynd ledled y dref yn; Galeri, Y Sdeision, Oriel CARN, Jac y Do, Neuadd y Farchnad, Llety Arall, Porth Mawr ac yn Cei Llechi. Hoffwn eich gwahodd chi i fod yn rhan o'r dathliadau, gan eich gwahodd chi i fod ar agor ac i fod yn rhan o'r hwyl. Croeso i chi gael stondin tu allan i'ch siop neu cynnal gweithgaredd o rhywfath..  Mi fydd stondinau bwyd y tu allan i Cei Llechi yn arwain i fyny at y Maes, mewn ymgyrch i ddenu pobl i fyny ac i lawr rhwng y 2 ardal. Mi fydd cerddoriaeth byw o amgylch y lle i ychwanegu at y naws Nadoligaidd. Gan edrych ymlaen i'ch gweld chi ar y diwrnod. Diolch Cofion, Menna Ar ran tîm trefnu | On behalf of  GŴYL FWYD CAERNARFON