Ganolfan Groeso

Cartref > Ganolfan Groeso

Ers 2019, mae HWB Caernarfon, Ardal Gwella Busnes y dref, wedi ariannu a rhedeg y Ganolfan Groeso. Croesawyd dros 4,000 o ymwelwyr i’r ganolfan yn ystod 2025, gan gynnwys ymwelwyr o 30 o wledydd gwahanol.

Nodyn:

Bydd y Ganolfan Groeso yn ail-leoli i Reilffordd Eryri, Ffordd Santes Helen, Caernarfon LL55 2YD, fel cyfnod prawf drwy fis Medi a mis Hydref 2026, o 8 Medi ymlaen.

Ar gau yn ystod wythnos gyntaf o fis Medi 2026 er mwyn pacio, symud a paratoi.

Oriau agor:

10yb tan 2yp ar ddydd Mawrth a dydd Mercher drwy fis Medi a mis Hydref 2026, yn ddibynnol ar argaeledd staff.

Bydd y ganolfan ar gau o fis Tachwedd 2026 tra bydd trefniadau tymor hwy yn cael eu hystyried. Rydym yn gobeithio darparu gwasanaeth gwybodaeth i ymwelwyr eto ar gyfer tymor 2027, yn amodol ar gadarnhad.

 

Ystadegau Canolfan Groeso