Grantiau

Cartref > Grantiau

Canllawiau grant gan Hwb Caernarfon 2023

Mae Hwb Caernarfon yn awyddus cefnogi gweithgareddau o fewn Tref Caernarfon a fydd yn denu plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddod i fewn i’r Dref ac a fydd yn cyfrannu yn bositif i’r economi leol. 

  1. Clustnodir swm o £20,000 yn flynyddol o gronfa Hwb Caernarfon i gefnogi gweithgareddau sydd yn hybu economi Caernarfon. Enghreifftiau o weithgareddau fyddai, ond nid yn unigryw i:

    1. Gŵyl o unrhyw fath lle hyrwyddir Caernarfon a sydd yn denu pobl i fewn i’r Dref

    2. Digwyddiad sydd yn adloniant o unrhyw fath a sydd yn denu pobl i fewn i’r Dre

  2. Bydd y flwyddyn ariannol yn rhedeg o Ionawr i Rhagfyr. Bydd bob cais yn cael ei ystyried gan y Bwrdd llawn ac unwaith fydd yr arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn, ni fydd rhagor yn cael ei ryddhau nes y flwyddyn ganlynol. Gallwch wneud cais am unrhyw swm hyd at £10,000 o bunnau. Rhaid dangos tystiolaeth gref o werth da am arian os gwneir cais am yr uchafswm sydd wedi ei ddynodi.

  3. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, grwpiau neu gwmnïau sydd yn cwrdd gyda criteria’r gronfa.

  4. Mae’n rhaid i bob cais ddangos yn glir sut maent yn cwrdd gyda’r gofynion gorfodol isod:

    1. Sut mae’r weithgaredd am fod o fudd i economi a busnesau Caernarfon

    2. Bod y weithgaredd yn cael ei gynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg

    3. Dangos gwerth am arian

    4. Cwblhau y ffurflen gais yn llawn

    5. Dangos sut byddent yn hyrwyddo’r digwyddiad gan gydnabod y cymorth ariannol gan Hwb Caernarfon yn glir

  5. Bydd rhaid dangos sut mae’r weithgaredd yn cwrdd gydag o leiaf un o themâu Hwb Caernarfon sef:

    ✓ Glân Gwyrdd ac Eco Gyfeillgar
    ✓ Cryfach gyda’n gilydd
    ✓ Man Diogel
    ✓ Yn falch o hyrwyddo

  6. Ni allwn dderbyn cais gan gorff cyhoeddus.

  7. Rhaid i bob cais llwyddiannus sicrhau a chydymffurfio gyda gofynion cyfleon cyfartal a sicrhau mynediad i bawb.

  8. Disgwylir i bob cais llwyddiannus gytuno drwy cytundeb gyda Hwb Caernarfon sut i gydnabod a hyrwyddo gwaith Hwb Caernarfon gan gynnwys darparu tystiolaeth.

  9. Byddwn yn monitro bob gweithgaredd a bydd disgwyl i ddeilyddion llwyddiannus y grant gydweithredu gyda hynny.

  10. DEDDF DIOGELU DATA 2018
    Hwb Caernarfon yw'r rheolwr data at ddibenion y Ddeddf. Defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen hon at ddibenion adrodd a chynllunio Gwaith. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol yn gyfrinachol. 

  11. Cydymffurfio gyda’r gofynion ynghyd âg arwyddo cytundeb ariannu

Ffurflen Cais am grant Hwb Caernarfon

Ffurflen gais am grant gan Hwb Caernarfon 2023