HWB Caernarfon 2026-2031
Cartref > Newyddion > HWB Caernarfon 2026-2031
Ar ran y Cadeirydd a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r holl fusnesau gymerodd ran yn y bleidlais Ardal Gwella Busnes (AGB) ac sydd wedi ein cefnogi dros y deng mlynedd diwethaf.
Yn dilyn y datganiad swyddogol heddiw gan Gyngor Gwynedd, rydym yn falch o gyhoeddi bod HWB Caernarfon wedi sicrhau tymor AGB newydd o bum mlynedd.
Roedd 63% o’r pleidleisiau a 75% o'r Gwerthoedd Ardrethol o blaid adnewyddu AGB HWB Caernarfon. Mae’r canlyniad hwn yn dangos cefnogaeth am fuddsoddiad cyfunol parhaus yng nghanol y dref ac yn gosod sylfaen glir i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei wneud. Rydym yn symud ymlaen rŵan gyda ffocws a rennir ar gryfhau bywiogrwydd, gwytnwch a ffyniant hirdymor Caernarfon.
Rydym yn cydnabod bod y bleidlais yn adlewyrchu amrywiaeth o farnau ar draws y gymuned fusnes. Mae’r holl dalwyr ardoll yn bwysig, ac rydym yn parchu yn llawn y rhai hynny ddewisodd i beidio cefnogi adnewyddu. Mae’r Bwrdd yn cymryd ei gyfrifoldeb i gynrychioli holl dalwyr yr ardoll o ddifri – p’un a wnaethoch chi bleidleisio ie, na, neu heb bleidleisio.
Rydym yn cydnabod na chawsom bopeth yn iawn yn ystod y tymor presennol ac yn parhau’n ymrwymedig i ddysgu ac i wella. Wrth i ni ddechrau ar y cyfnod newydd hwn, byddwn yn trefnu fforwm busnes canol tref anffurfiol yn fuan fydd yn agored i’r holl dalwyr ardoll, gan roi cyfle i ymgysylltu gyda’r Bwrdd, i ofyn cwestiynau, i rannu adborth ac i gyfrannu syniadau.
Byddwn nawr yn symud yn syth i ddarparu prosiectau allweddol ar gyfer y gwanwyn, yn cynnwys codi baneri yng nghanol y dref ar gyfer Y Pasg, trefnu’r Helfa Wyau Pasg blynyddol, a chydlynu glanhau’r gwteri er mwyn i’r dref edrych ar ei gorau cyn tymor prysur yr haf.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dryloywder, i atebolrwydd, ac i gynnig gwerth am arian i’r gymuned fusnes gyfan. Gyda’n gilydd, parhawn i yrru Caernarfon ymlaen.
Diolch am eich ymgysylltiad yn y broses ddemocrataidd ac am eich ymrwymiad parhaus i’r dref.
Yr eiddoch yn gywir,
John Stanley Evans Cadeirydd,
HWB Caernarfon ac ar ran y Bwrdd Cyfarwyddwyr.