Ymgynghoriaeth Cynllun Cerdyn Rhodd (Awst i Ragfyr 2026)
Cartref > Newyddion > Ymgynghoriaeth Cynllun Cerdyn Rhodd (Awst i Ragfyr 2026)
Ymgynghoriad Busnesau - Cynllun Cerdyn Rhodd Caernarfon
Mae HWB Caernarfon yn ymgynghori â busnesau sy’n talu’r lefi ynglŷn â’r posibilrwydd o gyflwyno Cynllun Cerdyn Rhodd Caernarfon yn y dyfodol.
Byddai’r cynllun yn anelu i:
- annog mwy o bobl i wario’n lleol
- cadw mwy o arian yn economi Caernarfon
- cefnogi busnesau canol y dref
- hyrwyddo Caernarfon fel lle i siopa, bwyta, ymweld a mwynhau
Byddai’r cynllun posibl yn cael ei ddarparu drwy Miconex, y cwmni sy’n rhedeg cynlluniau Town & City Gift Card mewn nifer o drefi, dinasoedd ac ardaloedd AGB eraill.
Byddai Cerdyn Rhodd Caernarfon yn gweithio fel cerdyn Mastercard rhagdaledig. Dim ond mewn busnesau cofrestredig fyddai’n gallu cael ei wario, a byddai’n cael ei dderbyn drwy beiriant cerdyn presennol y busnes fel taliad Mastercard arferol. Ni fyddai angen offer ychwanegol.
Ni fyddai cost ychwanegol uniongyrchol i’ch busnes gymryd rhan yn y cynllun. Byddai’r cynllun yn cael ei ariannu o leiaf yn rhannol drwy lefi flynyddol AGB HWB Caernarfon, ac rydym hefyd yn trafod y posibilrwydd o gefnogaeth neu bartneriaeth gyda sefydliadau eraill.
Pe bai gan eich busnes gynllun cerdyn rhodd neu dalebau ei hun eisoes, ni fyddai Cynllun Cerdyn Rhodd Caernarfon yn cymryd lle hynny. Byddai’n gynllun ychwanegol i helpu i ddod â gwariant ychwanegol i fusnesau lleol.
Mae costau sylweddol ynghlwm â sefydlu a rhedeg cynllun o’r fath. Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif y byddai’r gost oddeutu £13,000 i lansio’r cynllun a’i redeg yn y flwyddyn gyntaf, ac yna tua £8,500 y flwyddyn wedi hynny.
Mae'r ymgynghoriad gyda busnesau yn allweddol cyn y gellir gwneud penderfyniad ar y cynllun. Bydd angen i’r Bwrdd ystyried lefel y gefnogaeth gan fusnesau, faint o fusnesau fyddai’n debygol o gofrestru i gymryd rhan, a’r posibilrwydd o sicrhau cyfraniad ariannol gan bartneriaid eraill. Os bydd cefnogaeth ddigon cryf, y nod fyddai lansio’r cynllun yn ystod 2027/28.